2019 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Gwnaed Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2019 (O.S. 2019/237 (Cy. 56)) a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/887 (Cy. 159)) gan ddefnyddio pwerau yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“Deddf 2016”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1715 (Cy. 177)) a Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/746 (Cy. 75)) er mwyn cywiro mân wallau a wnaed i’r offerynnau hynny gan Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2019.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiad i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 er mwyn cywiro gwall croesgyfeirio yn rheoliad 8(1) o’r offeryn hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


2019 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2019

Gwnaed                                    31 Mai 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru                 3 Mehefin 2019

Yn dod i rym                      1 Gorffennaf 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 52(1), 186 a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016([1]).

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2019 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2019.

Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006

2. Yn rheoliad 4(3) o Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006([2]), yn lle “cynllun lleoli unigolyn” rhodder “cytundeb lleoli unigolyn”.

Rheoliadau Adolygu Penderfyniadauʼn Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010

3. Yn rheoliad 4(b) o Reoliadau Adolygu Penderfyniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010([3]), yn lle “9(7)(a)” rhodder “9(7)”.

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019

4. Yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019([4]), yn lle “rheoliad 12” rhodder “adran 52(1) o’r Ddeddf”.

 

 

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

31 Mai 2019



([1])           2016 dccc 2; gweler adran 189 am y diffiniad o “a ragnodir” a “rhagnodedig”.

([2])           O.S. 2006/1715 (Cy. 177); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2016/216 (Cy. 85), 2019/237 (Cy. 56).

([3])           O.S. 2010/746 (Cy. 75); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2016/211 (Cy. 84), 2019/237 (Cy. 56).

([4])           O.S. 2019/887 (Cy. 159).